Justice.gov.uk
202401: Prison Officer - HMP Usk & HMP Prescoed
This job is now closed
Job Description
- Req#: 83290
- fod yn 18 oed o leiaf pan fyddwch yn dechrau gweithio
- bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil (gweler yr adran cenedligrwydd isod)
- gan fod hon yn swydd gorfforol, bydd angen i chi basio asesiad meddygol a ffitrwydd fel rhan o'r broses ymgeisio
- bodloni’r safon golwg sy’n ofynnol yn y ddau lygad (gyda a heb lensys cywiro)
- Am resymau diogelwch, mae pawb sy’n hyfforddi i fod yn swyddog carchar angen gallu clywed i safon addas (heb ddefnyddio cymhorthion clyw)
- dinasyddion y DU
- dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
- dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd â hawl i weithio yn y DU
- dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families
- dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
- unigolion sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny
- dinasyddion Twrci, a rhai aelodau teulu dinasyddion Twrci, sydd wedi ennill yr hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
- sgiliau cyfathrebu a dylanwadu da
- ymrwymiad i ansawdd
- y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol
- gofal a dealltwriaeth
- 37 awr yr wythnos = £30,902 y flwyddyn
- 39 awr yr wythnos = £32,851 y flwyddyn
- 41 awr yr wythnos = £34,800 y flwyddyn
- 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (yn codi i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth)
- amser ychwanegol o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gwyliau cyhoeddus ac 1 diwrnod braint
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil o hyd at 20% o’ch cyflog
- cynllun seiclo i’r gwaith, benthyciadau teithio a buddion eraill
- cyfathrebu a dylanwadu
- rheoli gwasanaeth o safon uchel
- gwneud penderfyniadau effeithiol
- bod yn ofalgar
- Shared Services Connected Ltd: ffoniwch 0845 241 5358 (Dydd Llun i ddydd Gwener 8am - 6pm) neu anfon neges e-bost at Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com
- Adnoddau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Swyddog carchar – CEF Brynbuga a CEF Prescoed
CEF Brynbuga a Phrescoed 47 Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1XP
Cyflog cychwynnol: £32,851 (am wythnos 39 awr yn cynnwys 20% lwfans gweithio oriau anghymdeithasol)
Dinas/Tref: Casnewydd
Rhanbarth: De Cymru
Math o swydd: Teilyngdod
Swydd arbennig. Wedi’i gwneud gan rywun fel chi.
Mae swyddogion carchar yn amddiffyn y cyhoedd ac yn helpu i gael effaith ar fywydau carcharorion.
Os oes gennych chi’r uniondeb, y sgiliau a’r cymeriad rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw, gallai’r rôl ddynamig hon fod yn ddechrau gyrfa lwyddiannus. Nid oes dim dwy shifft na sefyllfa fyth yr un fath. Ac, wrth i chi fagu profiad, fe gewch amrywiaeth o gyfleoedd i dyfu a datblygu.
Rhywun fel chi
Does dim ffasiwn beth â’r swyddog carchar arferol. Daw ein swyddogion o wahanol gefndiroedd, yn union fel y troseddwyr y maent yn gweithio gyda nhw. P’un a ydych chi’n rhiant, yn athro, wedi gweithio ym maes manwerthu, yn y lluoedd arfog, neu’n teimlo eich bod chi’n berson pobl naturiol, bydd gennych chi’r empathi, yr hunanhyder, y sgiliau cyfathrebu gwych a’r gwytnwch rydyn ni eisiau.
Beth bynnag fo’r her, byddwch yn cymryd yr amser i feithrin perthnasoedd adeiladol, cadarnhaol a phroffesiynol gyda charcharorion a allai fod ar y pwynt isaf yn eu bywydau.
Mae gwaith tîm yn chwarae rhan hollbwysig yn yr amgylchedd hwn, felly bydd angen i chi ymrwymo’n llwyr i gefnogi eich cydweithwyr a deall pwysigrwydd gweithredu fel un tîm i gadw’r carchar, carcharorion a phawb sy’n gweithio yma’n ddiogel.
Bydd gofyn i chi weithio shifftiau amrywiol a rhai penwythnosau.
Swydd arbennig
Yn yr yrfa unigryw hon, cewch gyfle i gyflawni llawer o wahanol rolau mewn unrhyw ddiwrnod. Un funud byddwch yn cadw’r heddwch, y funud nesaf byddwch yn gwnselydd neu’n athro. Byddwch chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda charcharorion mewn amgylchedd unigryw, gan helpu i ddiogelu’r cyhoedd a chael dylanwad cadarnhaol.
Dysgwch fwy am y rôl amrywiol hon a bywyd o ddydd i ddydd fel swyddog carchar.
Manylion y Swydd
Cymhwysedd
I fod yn swyddog carchar, bydd angen i chi:
I weithio mewn carchar diogelwch uchel (categori A) rhaid ichi fod wedi byw yn y DU am y 3 blynedd diwethaf.
Gofynion Cenedligrwydd
Mae’r swydd hon yn agored yn fras i’r grwpiau canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cadw’r hawl honno.
Sgiliau hanfodol
Does dim angen cymwysterau arnoch i fod yn swyddog carchar. Mae rhinweddau personol yn bwysicach. Mae angen i chi ddangos:
Cyflog
Bydd yr hyfforddiant cychwynnol yn 37 awr yr wythnos. Ar ôl hyfforddi, gallwch ddewis gweithio 37, 39 neu 41 awr yr wythnos. Bydd eich cyflog blynyddol yn adlewyrchu eich oriau wythnosol.
Mae’r holl ffigurau cyflog a nodir yn cynnwys unrhyw lwfansau ychwanegol.
Mae carchardai yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi weithio patrymau shifftiau amrywiol a fydd yn cynnwys gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus weithiau (ychwanegir y dyddiau hyn at eich lwfans gwyliau). Mae’r rhan fwyaf o garchardai’n gweithio gyda phatrwm shifftiau newidiol o 39 awr yr wythnos.
Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol gyda thâl.
Buddion
Darllenwch fwy am fuddion gweithio fel swyddog carchar.
Nid y buddion hyn yw’r unig bethau a gewch o weithio i’r Gwasanaeth Carchardai. Cewch hefyd ymdeimlad o falchder pan fyddwch chi wedi helpu carcharor i roi ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn – y math o brofiad na chewch chi yn unman arall.
Y Broses Asesu
Yn ystod y broses recriwtio, byddwch yn cael eich asesu ar yr ymddygiadau, y cryfderau a’r galluoedd sy’n ofynnol i fod yn swyddog carchar effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Byddwn yn asesu eich cryfderau naturiol i ganfod beth sy’n eich ysgogi a’ch sbarduno. Byddwn hefyd yn asesu eich gallu o ran rhifedd, Saesneg ysgrifenedig a Saesneg llafar.
Prawf Ar-lein
Cewch eich gwahodd i gwblhau’r prawf ar-lein, i weld a oes gennych chi’r crebwyll sylfaenol a’r sgiliau rhif a ddisgwylir gan swyddog carchar.
Y Ganolfan asesu ar-lein
Os byddwch yn pasio’r prawf ar-lein, byddwn yn eich gwahodd i ganolfan asesu ar-lein.
Rydym yn profi i weld a oes gennych chi’r galluoedd, yr ymddygiadau a’r cryfderau i fod yn swyddog carchar.
Ar ôl i chi gwblhau’r ganolfan asesu ar-lein yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau prawf meddygol a ffitrwydd. Bydd hyn yn cynnwys prawf golwg, prawf clyw a phrofion sgrinio iechyd sylfaenol, gan gynnwys archwiliad pwysedd gwaed.
Darllenwch fwy am y broses ymgeisio.
Cynigion swydd: swydd wag yn seiliedig ar deilyngdod
Mae hon yn swydd sy’n seiliedig ar deilyngdod. Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu ar-lein, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr teilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.
Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r ganolfan asesu, bydd y carchar yn cynnig swydd i’r rheini sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi ar gael.
Gallwch aros ar y rhestr teilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais eto.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus yn y cam didoli/cyfweld, bydd cyfnod aros o chwe mis yn cael ei roi ar waith ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni fyddwch yn cael cyflwyno unrhyw geisiadau pellach am swyddi swyddog carchar.
Rôl Gradd Cymorth Gweithredol
Bydd ein Canolfan Asesu Ar-lein nid yn unig yn eich asesu yn erbyn y meini prawf allweddol i fod yn swyddog carchar ond bydd hefyd yn canfod eich addasrwydd i gael eich penodi i Rôl Gradd Cymorth Gweithredol. Os byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais i fod yn swyddog carchar, ar ôl bod yn y Ganolfan asesu ar-lein, gallwn gynnig rôl arall i chi fel Swyddog Cymorth Gweithredol.
Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, yn unol â'r egwyddorion recriwtio a nodir yng Nghomisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol:
Rydym yn annog pobl o bob cefndir i gyflwyno ceisiadau ac yn anelu at gael gweithlu sy’n cynrychioli’r gymdeithas ehangach rydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gyflogwr o ddewis. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a lles ac yn ceisio creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo eu bod yn perthyn.
Cymorth anabledd
Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i roi cyfle i bawb ddangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd, drwy wneud addasiadau i bob elfen o’r broses recriwtio ac yn y gweithle. Byddwch yn gallu gwneud cais am addasiadau rhesymol i’r broses recriwtio yn y ffurflen gais. Gallwn gynnig addasiadau rhesymol i helpu gyda’r profion ar-lein a’r ganolfan asesu ar-lein.
Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0345 241 5358 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm) neu anfonwch e-bost at MoJ-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com.
About the company
The UK Ministry of Justice is responsible for a transparent and responsive criminal justice system for victims and the public.
Notice
Talentify is an Equal Opportunity Employer. All qualified applicants will receive consideration for employment without regard to race, color, religion, sex, sexual orientation, gender identity, national origin, disability, or protected veteran status.
Talentify provides reasonable accommodations to qualified applicants with disabilities, including disabled veterans. Request assistance at accessibility@talentify.io or 407-000-0000.
Federal law requires every new hire to complete Form I-9 and present proof of identity and U.S. work eligibility.
An Automated Employment Decision Tool (AEDT) will score your job-related skills and responses. Bias-audit & data-use details: www.talentify.io/bias-audit-report. NYC applicants may request an alternative process or accommodation at aedt@talentify.io or 407-000-0000.